8 act electronig o Gymru i gadw ar flaen eich bysedd
O wlad y beirdd a'r cantorion - dyma bigo 8 act electronig i chi ychwanegu i'ch bocs recordiau.
​
Earl Jeffers
Mae sŵn Earl Jeffers yn un trylwyr, cyfoethog ac yn aml yn ymgorfforiad o fachlud haul brâf. Sŵn diffiniadol House, heb os. Am fwy, chwiliwch am yr enw Chesus mae o weithiau yn hwylio oddi tanni, neu ei label Melange.
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
Kelly Lee Owens
Yn wreiddiol o Fagillt, sir y Fflint, mae Kelly Lee Owens bellach yn perfformio i gynulleidfaoedd ar draws y byd. Wedi eisioes ennill y Wobr Gerddoriaeth Gymreig am ei halbym Inner Song, mae'n parhau i fynd o nerth i nerth.
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
Koreless
Camp Koreless ydi ei allu i wneud synau haniaethol i wneud synnwyr. Mae'i albym Agor yn llawn synau ambient, electronig a 8-bit - ond rhywsut hefyd yn swnio fel dim un o'r rheiny. Artist cyffrous.
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
Dauwd
Byddai'n anodd iawn i rywun wrando ar Idris heb dapio troed neu dwmpio pen. Un i gofio gan y gŵr o Landrillo.
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
Jina
O'r ychydig draciau sydd ar gael gan Jina ar-lein, ewch am sbec am y fersiwn byw o Dagrau Ar Lun am synths a thor-calon nodweddiadol yr 80au.
​
Jamie Jones
Un o enwau mwyaf adnabyddus y byd cerddoriaeth electronig - mae Jamie Jones a'i wreiddiau Caernarfon i'w weld ar ben line-yps gwyliau mwya'r byd. A phan dydi o ddim yn gwneud hynny - mae o'n leakio crysa pel-droed Cymru.
​
​
​
Elkka
Mae Elkka yn parhau i ennyn gwrando, boed hynny oherwydd ei thraciau gwreiddiol hi ei hun, neu o'i label femme culture. Yn flynyddol, mae femme culture yn rhyddhau casgliad o draciau dan yr enw HeForShe gan amryw artistiaid, gan gefnogi elusen yn yr un gwynt.
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
Overmono
Y brodyr Tom ac Ed Russell ydi'r bîts tu cefn i Overmono. Wedi paru fyny dan enwau blaenorol (TR/ER, Meibion) dan Overmono ydi ble mae nhw wedi canfod ei steil nodweddiadol - a chanfod cryn dipyn o ffans ar hyd y ffordd.
​