top of page

8 films inspired by electronic music

Here are the films to watch

​

Berlin Calling

Paris is Burning

Everybody in the Place

BPM

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

Kelly Lee Owens

Yn wreiddiol o Fagillt, sir y Fflint, mae Kelly Lee Owens bellach yn perfformio i gynulleidfaoedd ar draws y byd. Wedi eisioes ennill y Wobr Gerddoriaeth Gymreig am ei halbym Inner Song, mae'n parhau i fynd o nerth i nerth.

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

 

​

Koreless

Camp Koreless ydi ei allu i wneud synau haniaethol i wneud synnwyr. Mae'i albym Agor yn llawn synau ambient, electronig a 8-bit - ond rhywsut hefyd yn swnio fel dim un o'r rheiny. Artist cyffrous.

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

Dauwd

Byddai'n anodd iawn i rywun wrando ar Idris heb dapio troed neu dwmpio pen. Un i gofio gan y gŵr o Landrillo.

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

Jina

O'r ychydig draciau sydd ar gael gan Jina ar-lein, ewch am sbec am y fersiwn byw o Dagrau Ar Lun am synths a thor-calon nodweddiadol yr 80au.

​

Jamie Jones

Un o enwau mwyaf adnabyddus y byd cerddoriaeth electronig - mae Jamie Jones a'i wreiddiau Caernarfon i'w weld ar ben line-yps gwyliau mwya'r byd. A phan dydi o ddim yn gwneud hynny - mae o'n leakio crysa pel-droed Cymru.

​

Elkka

Mae Elkka yn parhau i ennyn gwrando, boed hynny oherwydd ei thraciau gwreiddiol hi ei hun, neu o'i label femme culture. Yn flynyddol, mae femme culture yn rhyddhau casgliad o draciau dan yr enw HeForShe gan amryw artistiaid, gan gefnogi elusen yn yr un gwynt.

​

​

​

​

​

 

​

​

​

​

​

​

​

Overmono

Y brodyr Tom ac Ed Russell ydi'r bîts tu cefn i Overmono. Wedi paru fyny dan enwau blaenorol (TR/ER, Meibion) dan Overmono ydi ble mae nhw wedi canfod ei steil nodweddiadol - a chanfod cryn dipyn o ffans ar hyd y ffordd.

​

OGOF logo
bottom of page