• Ogof

10 CÂN LYF-LI ELECTRONIG I DDISGYN MEWN CARIAD EFO (cc: SANTES DWYNWEN)


Dydd Santes Dwynwen Hapus i chwi oll. I ddathlu cariad, ac yr achlysur, 'da ni wedi dewis 10 cân lyf-li sydd a chariad yn brif thema i'r caneuon - lyfli. Cysidrwch o ein llwy gariad ddigidol i chi, a chofiwch fod hunan-gariad yn bwysig, yn enwedig heddiw. Felly, mewn dim trefn penodol...



1) Daft Punk - Digital Love



O bosib, Daft Punk oedd ein cariad cyntaf erioed, a mae'r trac yma yn esiampl penigamp o'r deuwad Ffrengig ar eu sŵn mwya theatrig, popaidd. Y trydydd can oddi ar yr albym Discovery gafodd ei ryddhau yn 2001, mae mor ffres heddiw a gwlith y bore.



2) DJ Technics - Girlfriend



Yn ddiweddar mae'r trac yma o wedi cael ei chwarae gen i lot. Dwi'm cweit yn siwr pam fod y trac yma yn ffeindio'i ffordd nôl ata i, dwi ond yn gwybod ei fod o. Annesoboniadwy, dwi just yn licio fo. Ddim yn rhy anhebyg i gariad, de? Neu rwbath cheesy fela eniwe.




3) Trans Love Vibration - Eris Drew



Un o hoelion wyth Ogof, mae Eris Drew wedi ymddangos ar restr chwarae cyntaf un Ogof. Hwn yn un reit chilled - mae chwarae hwn yn rhoi cyfla i rywun cymryd hoe fach ag edrych ar ôl ei hunan fel oni'n son am gyna.




4) Derrick Carter's Sound Patrol - I'm Sorry (Clairvoyage)



Mae'n bwysig gallu ymmdiheuro pan mewn perthynas. Efo'r linc dena iawn yna i gariad allan o ffordd, rhowch y gwledd i'r glustiau yma, wedi'i baratoi gan Derrick Carter. Dwi'n methu'r gân yma os dwi heb ei glywad o mewn sbelan.





5) Jina - Dagrau Ar Lun




Oce, os oedd yr un uwch hwn yn pwsho paramedrau 'cariad' i'r cymylau, mae Dagrau Ar Lun gan Jina yn mynd i'r entrychion. Ond fi sydd yn gwneud a thorri'r rheolau, felly fel'na mae hi. Be sy'n aml yn achosi dagrau? Tor-calon. Ag yn yr achos yma, mae'r tor-calon yn deillio o fo yn dewis mynd i wylio Italia '90 yn y pyb (lle mae'n gyfreithlon smocio tu fewn) - a wedi bwrw heibio'r cynnig i wylio Back to the Future III efo hi yn y sinema. Neu be' bynnag oedda nhw'n neud yn 1990. Probabli.






6) Flowers - Sweet Female Attitude



Bloda? I fi? Lyf ew.




7) Jayda G - Both Of Us



Cariad pur mewn llai na pum munud. Hyd yn oed os nad ydi Jayda ei hun ddim yn sicr ei bod hi'n gallu caru digon trwy'r lyrics, dwi'n teimlo fod y gan yma yn gwneud joban go dda yn ei lle hi.





8) Frankie Knuckles - Your Love



Achos bydda unrhyw restr cariad yn anghyflawn heb ei gynnwys, ac oherwydd mai Frankie Knuckles dio.






9) For Those I Love - I Have a Love (Overmono Remix)



Fues i ddigon ffodus i weld I Have a Love yn cael ei chwarae'n fyw yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd yn 2021, ble wnaeth Overmono chwarae hwn a es i yn reit ecsaitud. Pe bydda soundtrack Trainspotting yn cael ei wneud yn y 2020au, rhywbeth fel hyn byddwn i'n tybio bydda'r canlyniad.




10) I Feel Love - Donna Summer



Wrth gwrs, mae hwn ar y rhestr. Y sŵn cefndirol i bob montage erioed, y sŵn o'r goleuadau'n dod yn ôl mlaen, y gwneuthrwr-cofleidio-cyfeillion ei hun. I Feel Love yn wir.



A dyna ni - lobscows cariadus o ganeuon i'ch helpu ddathlu y diwrnod cariadus oll.

Dydd Santes Dwynwen Hapus!